Mewn digwyddiad llwyddiannus dan ganllawiau caeth Covid-19, mwynhawyd theatr fyw yng Nghlwb Rygbi Dinbych, diolch i ymdrech enfawr gan dîm cyfan o bobl, yn cynnwys aelodau’r cast, criw trefnu Menter Iaith Syr Ddinbych, y clwb rygbi a’r cyhoedd.

“Rhaid talu gwrogaeth i bawb a sicrhaodd bod Bara Caws yn gallu perfformio’n ddiogel,” eglurodd Ruth Williams o Fenter Iaith Syr Ddinbych, y sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir.

“Roedd hi’n noson hynod lwyddiannus, er gwaetha’r mesurau Covid ychwanegol funud olaf wnaed ac roedd criw Theatr Bara Caws, fel arfer, yn llond bol o hwyl. Roedden ni’n benderfynol o sicrhau bod theatr Gymraeg fyw yn cael dod yn ôl i Sir Ddinbych eto tra ar yr un pryd yn ceisio lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â Covid-19. Diolch yn fawr i bawb a gymrodd ran a mynychu i wneud hi’n noson lwyddiannus.”

Cefnogwyd y noson trwy gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, Noson Allan, sy’n cefnogi lleoliadau, yn ariannol a thrwy gynghori. Ar gyfer sioe Dawel Nos, roedd y cynllun yn allweddol i godi hyder y Fenter i ddod â theatr fyw yn ôl i’r gymuned wedi’r pandemig. Mae’r cynllun hefyd wedi cydweithio a Menter Iaith i gefnogi grwpiau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr i ddeall beth sy’n bosibl, trwy’r cynllun hwn.

I’r actor a’r cyfarwyddwr a fagwyd yn Nyffryn Clwyd, Iwan Charles, roedd cael dod â’r sioe yn ôl i’w filltir sgwâr yn arbennig. Mae’r gŵr sy’n wreiddiol o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch wedi mwynhau bod yn rhan o sioe Theatr Bara Caws wrth iddi fynd ar daith ar hyd a lled Gogledd Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig. Dau actor arall o’r fro fu’n rhan o’r cast oedd Llŷr Evans a Carys Gwilym.

“Mae hi bob amser yn wych cael dod adref i berfformio, er ei fod, fel arfer y lle dwi fwyaf nerfus wrth berfformio. I ni fel perfformwyr, mae’n siŵr mae ein teulu a’n ffrindiau yw’n beirniaid mwyaf. Ond dwi bob amser yn cael llond lle o gefnogaeth ac yn falch iawn o’r ymateb rydyn ni’n ei gael yng Nghlwb Rygbi Dinbych.

“Mae’r sioe yn un tafod yn y boch sy’n edrych ar bynciau cyfredol y dydd, yn llawn cymeriadau lliwgar, sy’n defnyddio eironi a doniolwch i ddiddanu. Rydyn ni i gyd wedi mwynhau difyrru cynulleidfaoedd ledled gogledd Cymru. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei garu – perfformio!

“Wrth gwrs, mae Covid wedi gosod heriau i ni, ond rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan bawb ym mhob lleoliad, a dyw Dinbych ddim gwahanol yn hynny o beth. Diolch i’r tîm ym Menter Iaith Sir Ddinbych am y croeso ac am barhau i wneud Dyffryn Clwyd yn lle gwych i berfformio ynddo.”

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wastad yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi cymunedau lleol i lwyfannu digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg yn eu hardaloedd, boed hynny yn y cnawd neu ar-lein.

“Rydyn ni’n annog unrhyw grwpiau cymunedol sy’n ystyried dod â digwyddiad i’w hardal i gysylltu â ni. Mae’n rhan o’n gwaith i hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru i gynulleidfaoedd ledled Sir Ddinbych, a byddem yn sicr yn croesawu unrhyw gyfleoedd a syniadau.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i’r Fenter gydol y flwyddyn. A hoffem ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd ddedwydd a diogel i bawb,” meddai Ruth Williams.

Am fwy o wybodaeth am weithio gyda Menter Iaith Sir Ddinbych, cysylltwch â Ruth neu Gwion ar 01745 812822 neu e-bostiwch menter@misirddinbych.cymru