{"id":4882,"date":"2025-03-04T16:54:23","date_gmt":"2025-03-04T16:54:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/busnesau-dinbych-a-rhuthun-yn-rhoi-ffenest-siop-i-ddathliadau-dydd-gwyl-dewi\/"},"modified":"2025-12-17T15:21:30","modified_gmt":"2025-12-17T15:21:30","slug":"busnesau-dinbych-a-rhuthun-yn-rhoi-ffenest-siop-i-ddathliadau-dydd-gwyl-dewi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/busnesau-dinbych-a-rhuthun-yn-rhoi-ffenest-siop-i-ddathliadau-dydd-gwyl-dewi\/","title":{"rendered":"Denbigh and Ruthin businesses give St David\u2019s Day celebrations a shop window"},"content":{"rendered":"\n<p>Cymrodd bron i 40 o fusnesau Dyffryn Clwyd ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd G\u0175yl Ddewi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dathlu g\u0175yl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn nhrefi Rhuthun a Dinbych, yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau ymgysylltu \u00e2 chwsmeriaid a rhoi\u2019r statws dyledus i\u2019r digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn falch, unwaith eto eleni, i weld busnesau yn sylweddoli gwerth masnachol defnyddio\u2019r Gymraeg a\u2019r diwylliant ar eu busnesau,\u201d eglura Iorwen Jones o Fenter Iaith Sir Ddinbych.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae trefnu\u2019r digwyddiad hwn yn dangos ein cefnogaeth, fel Menter, i fusnesau annibynnol lleol sy\u2019n gweithio\u2019n galed ar strydoedd trefi\u2019r sir i annog busnes ac economi leol y stryd fawr.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn ddiolchgar i bob un o\u2019r busnesau a ymgysylltodd \u00e2 ni trwy\u2019r gystadleuaeth, a hynny trwy ddangos creadigrwydd, cynnyrch a lliw Cymreig bendigedig yn ffenestri eu siopau eleni. Mae\u2019n wych gweld cymaint o fusnesau eisiau hybu eu Cymreictod o fewn Dinbych a Rhuthun.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Menter Iaith, sy\u2019n elusen, yn ddiolchgar am holl gefnogaeth ei phartneriaid, wrth iddynt weithio i hybu defnydd o\u2019r Gymraeg ym mywydau pob dydd trigolion y sir. Eleni roedd Cynghorau Tref Rhuthun a Dinbych yn bartneriaid yn y gystadleuaeth wrth gefnogi\u2019r gweithgareddau yn eu trefi priodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Meiri y ddwy dref fu\u2019n beirniadu ffenestri\u2019r siopa gyda gwobrau\u2019n cael eu rhoi i\u2019r tri busnes buddugol yn Ninbych ac yn Rhuthun. Roedd y beirniaid yn sgorio pwyntiau am greadigrwydd, defnydd o\u2019r iaith Gymraeg, cyfeiriadau at Ddewi Sant a diwylliant Cymru, fel rhan o\u2019i r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Canlyniadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/MID-Lovingly-made-by-Lyn-1-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"790\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/MID-Lovingly-made-by-Lyn-1-790x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4878\" style=\"width:488px;height:auto\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Llun: <strong>Ffenest siop Lovingly Made by Lyn enillodd y wobr gyntaf yn nhref Rhuthun yng nghystadleuaeth ffenest siop Dydd Gwyl Dewi Menter Iaith Sir Ddinbych<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhuthun<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Lovingly Made by Lyn<\/li>\n\n\n\n<li>Siop Elfair<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfrifwyr Hill a Roberts<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Dinbych<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"1\">\n<li>Lle Llinos a Kerry<\/li>\n\n\n\n<li>Tony Griffiths Framing &amp; Photography<\/li>\n\n\n\n<li>Siop flodau Reebees<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Iorwen \u201cHoffai\u2019r Fenter Iaith ddiolch i bob busnes a gyfrannodd wobrau tuag at y gystadleuaeth yn eu mysg Reebees a Teacups Tearooms a diolch eto i\u2019r Cynghorau Tref am eu cefnogaeth barhaus.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae lluniau o\u2019r holl ffenestri i\u2019w gweld ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych. Am fwy o wybodaeth am waith Menter Iaith Sir Ddinbych<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymrodd bron i 40 o fusnesau Dyffryn Clwyd ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd G\u0175yl Ddewi. Mae dathlu g\u0175yl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn nhrefi Rhuthun a Dinbych, yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau ymgysylltu \u00e2 chwsmeriaid a rhoi\u2019r statws dyledus i\u2019r digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":32,"featured_media":4875,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"categories":[242],"tags":[],"class_list":["post-4882","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-newyddion-en"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4882","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/32"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4882"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4882\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4901,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4882\/revisions\/4901"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4875"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4882"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4882"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4882"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}