{"id":3651,"date":"2023-01-25T13:27:05","date_gmt":"2023-01-25T13:27:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/clod-i-fenter-iaith-sir-ddinbych-mewn-digwyddiad-cenedlaethol\/"},"modified":"2025-12-17T15:24:27","modified_gmt":"2025-12-17T15:24:27","slug":"clod-i-fenter-iaith-sir-ddinbych-mewn-digwyddiad-cenedlaethol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/clod-i-fenter-iaith-sir-ddinbych-mewn-digwyddiad-cenedlaethol\/","title":{"rendered":"Clod i Fenter Iaith Sir Ddinbych mewn digwyddiad cenedlaethol"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol yn nigwyddiad Dathlu\u2019r Mentrau Iaith am eu gweithgareddau Minecraft a Lego i blant a phobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn digwyddiad arbennig i ddathlu gwaith y mentrau iaith sy\u2019n hyrwyddo\u2019r defnydd o\u2019r Gymraeg ledled Cymru, daeth cyfle i\u2019r elusen, sy\u2019n gweithio ledled Sir Ddinbych, rannu hanes eu cynllun.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych: \u201cDaeth prosiect Bocs Trysor i fodolaeth yn ystod clo mawr y pandemig pan welwyd y cyfle i weithio yn ddigidol trwy\u2019r Gymraeg er mwyn cyrraedd at blant a phobl ifanc yn ddiogel.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda nawdd o gronfa\u2019r Loteri Treftadaeth, llwyddwyd i ddatblygu peilot gweithgareddau rhithiol gyda phlant er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg, a hyn yn benodol gyda Lego a Minecraft<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hyrwyddo treftadaeth lleol yn dod \u00e2\u2019i cynefin yn fyw,\u201d eglura Ruth Williams. \u201cTrwy dderbyn y nawdd, dyma gyfle i ni ddatblygu\u2019r peilot a chreu adnodd a oedd yn cyflwyno hanes lleol, treftadaeth ein milltir sgw\u00e2r i blant a phobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cTrwy chwarae a chymdeithasu o fewn y gweithdai Lego a Minecraft yn ddigidol ac yn nes ymlaen mewn sesiynau wyneb yn wyneb, roedden ni\u2019n gallu cynnig darpariaeth cymdeithasol oedd yn apelio at y plant trwy gyfrwng y Gymraeg.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun Bocs Trysor yn barod wedi sicrhau bod dros 600 o blant a phobl ifanc wedi dod a<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Chastell Dinas Br\u00e2n<\/li><li>tref gaerog canoloesol Dinbych<\/li><li>pentre Capel Celyn<\/li><li>tref marchnad Rhuthun<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>ac ambell le arall yn fyw i\u2019r genhedlaeth nesaf, oddi fewn i\u2019r gemau a\u2019r gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019r gwaith datblygu, bu\u2019n rhaid i\u2019r Fenter fuddsoddi mewn offer digidol a hyfforddiant i ddefnyddio \u2018server\u2019 penodol ar gyfer Minecraft, gan gysylltu \u00e2 nhw ar ddyfeisiadau gwahanol a throsglwyddo gwybodaeth yn hwylus i bawb gyrraedd at y dechnoleg. Meddai Gwion Tomos-Jones, swyddog plant a phobl ifanc y Fenter: \u201cY gwir ydi erbyn hyn, y gallwn ni gynnal gweithdai mewn mwy o leoliadau hanesyddol, i gynnig profiad uniongyrchol o ardal neu leoliad hanesyddol i bobl ifanc. Gyda chefnogaeth ariannol pellach, does dim rhwystrau\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych, Arwel Roberts: \u201cMae\u2019r Bocs Trysor wedi llwyddo oherwydd syniadau beiddgar ac ysgogiad staff y Fenter a gyllidir gan Llywodraeth Cymru a\u2019r cydweithio ariannol gan y Loteri Treftadaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Cyng.Arwel-Roberts-a-Minecraft-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"3648\" src=\"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Cyng.Arwel-Roberts-a-Minecraft-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3648\" srcset=\"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Cyng.Arwel-Roberts-a-Minecraft-980x735.jpg 980w, https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Cyng.Arwel-Roberts-a-Minecraft-480x360.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/a><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn ymfalch\u00efo bod y criw bach o staff wedi derbyn cydanbyddiaeth am eu gwaith gan sicrhau adnodd credadwy a llwyddiannus sy\u2019n hawdd i\u2019w efelychu mewn ardaloedd eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd derbyn clod a diddordeb Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles yn y cynllun llynedd ar faes Eisteddfod yr Urdd, hefyd yn gydnabyddiaeth o ddyfesigarwch y criw. Llongyfarchiadau mawr i\u2019r t\u00eem a phob lwc nos Iau yng Ngwobrau\u2019r Mentrau.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol yn nigwyddiad Dathlu\u2019r Mentrau Iaith am eu gweithgareddau Minecraft a Lego i blant a phobl ifanc. Mewn digwyddiad arbennig i ddathlu gwaith y mentrau iaith sy\u2019n hyrwyddo\u2019r defnydd o\u2019r Gymraeg ledled Cymru, daeth cyfle i\u2019r elusen, sy\u2019n gweithio ledled Sir Ddinbych, rannu hanes eu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":34,"featured_media":3647,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"categories":[220,250,231,242,232],"tags":[],"class_list":["post-3651","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digwyddiadau-2","category-mentrau-iaith-cymru-en","category-newyddion-en","category-newyddion-newyddion-en","category-uncategorized-cy-en"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3651","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/34"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3651"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3651\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3652,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3651\/revisions\/3652"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3651"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3651"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.misirddinbych.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3651"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}