Mae app poblogaidd Pacca Alpaca, sy’n dysgu ieithoedd i blant bach wedi ychwanegu Cymraeg i’r 6 iaith arall sydd arni; Ffrangeg; Almaeneg; Arabeg; Sbaeneg; Mandarin a Saesneg!
O lawrlwytho’r app hon bydd eich plentyn yn mynd ar antur o gwmpas y byd gyda Alpaca doniol o’r enw Pacca – ac wrth anturio, mae cyfle i ddysgu!
Gydag animeiddio gwych, gemau aml-lefel a digon o ddoniolwch i’w gael yng nghwmni Pacca yr Alpaca, bydd app yn siwr helpu’ch plentyn ddysgu drwy chwarae.
Felly os ydych chi’n edrych am app ddifyr i gefnogi mamiaith eich plentyn neu i gyflwyno iaith newydd….cymerwch olwg ar yr un hyfryd hon!