Pryder am ail agor y neuadd bentref? Poeni am ail ddechrau’r ymarfer côr? A fydd y sioe leol yn barod i ail agor ei giât y flwyddyn nesaf? A beth am y clybiau a’r gwyliau sy’n rhan hanfodol o’n cymunedau lleol?
Nid ydych ar ben eich hun. Yn ôl argymhellion yn dilyn adroddiad gan Llywodraeth Cymru mae galwad i ailgysylltu gyda grwpiau “oedd yn annhebygol o ailddechrau wedi’r pandemig i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ei hangen i’w cynorthwyo i ailddechrau gweithredu yn unol â’u dymuniad”.
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, yn cynnig arweiniad i grwpiau cymunedol ail-gydiad mewn gweithgareddau ac ail-agor canolfannau gan ddilyn canllawiau diogelwch Covid-19.
Mewn dwy sesiwn arbennig drwy Zoom wedi eu teilwra ar gyfer ein cymunedau lleol, bydd yr arbenigwr ym maes iechyd a diogelwch i ddigwyddiadau, Alan Gwynant, yn cynnig arweiniad a dos o hyder yn ein gwirfoddolwyr wrth iddynt fynd ati i baratoi at gynnal digwyddiadau.
Am 7 o’r gloch nos Fercher, 8 o Fedi, cynhelir sesiwn Cymraeg. Os oes aelodau o’ch pwyllgor yn ddi-Gymraeg, cynhelir sesiwn yn Saesneg ar nos Lun 20 o Fedi, hefyd am 7 o’r gloch.
“Mae’n amser pryderus i nifer, gyda chanllawiau ar gynnal digwyddiadau yn newid yn gyson,” eglura Ruth Williams o’r Fenter Iaith. “Pwrpas y sesiynau yma ydi rhoi arweiniad clir a chefnogaeth i’n sefydliadau gwirfoddol, fel bod ganddynt yr arfau priodol ar gyfer agor eu drysau i gynnal digwyddiadau unwaith eto. Bydd arweiniad ar leihau risg, cynllunio ymlaen llaw, cyfathrebu gyda’r cyhoedd a delio gydag achosion o Covid19, i enwi ychydig o gynnwys y sesiynau. Y gobaith wedi’r sesiwn 1.5 awr yw y bydd pawb yn gliriach wrth fynd ati i baratoi gweithgareddau yn eu cymunedau dros y misoedd nesaf ac y gallwn edrych ymlaen at weld mwy o ddigwyddiadau cymunedol yn ôl ar y calendr.”
I gofrestru ffoniwch 01745 812822 neu e.bostiwch menter@misirddinbych.cymru