Mae Orig Williams neu El Bandito fel yr adnabu’r reslwr o Gymro wedi cario’r ddraig i bedwar ban byd, wedi brwydro’r gwylltion gwyllta’, wedi ennill, colli, disgyn a chodi. Heb os nac oni bai, fe wnaeth e fyw i’r eithaf!
Dyn ffair, dyn reslo, dyn teulu, dyn mentro.
Mae Gai Toms wedi cyfansoddi chwip o albwm sy’n mynd â ni ar daith drimbwl-drambwl o fywyd Orig, o ‘Balmant Aur’ Ysbyty Ifan i’r rymbl yn y jyngl yn Calabar, Nigeria, gyda sain yr acordion, ffidil, trymped, trombôn a’r sacs yn llwyddo i roi’r ffync, yn ogystal â’r ffair i’r holl beth.
Mae’r sioe wedi cael adolygiadau gwych a chanmoliaeth heb ei hail ers Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy ym mis Awst eleni. Dyma gyfle arbennig i weld perfformiad byw o’r albwm a bod yn rhan o noson fydd yn ddathliad o fywyd un o’n heiconau cenedlaethol.
Perfformir sioe ORIG yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar Nos Sadwrn, 23ain o Dachwedd am 7:30yh. Hefyd yn perfformio ar y noson fydd y canwr gyfansoddwr ac enillydd Cân i Gymru eleni – Elidyr Glyn. Tocynnau ar werth rwan gan Menter Iaith Sir Ddinbych ar 01745 812822.
Bydd copïau o’r sgript ar gael wedi eu hargraffu ar ffurf print bras, braille ac yn ddigidol. Cefnogwyd y daith gan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Orig Williams or El Bandito as the Welsh wrestler was known has carried the Welsh flag to all parts of the World. He fought the fiercest of fighters, experienced the wins and the losses – without a doubt, he lived life to the limit!
A wrestler, a family man and an entrepreneur.
Gai Toms has composed a superb album that takes the listener on a sonic trumpet-trample tour of Orig’s life – from the ‘golden pavement’ of Ysbyty Ifan to the rumbles in the Calabar jungle, Nigeria – and created a sound that’s an explosion of funk and flair.
Following the performance in Tŷ Gwerin at this year’s National Eisteddfod in Llanrwst, the show has received rave reviews and unprecedented praise. This is a wonderful opportunity to see a live performance of the album and be part of an evening celebrating the life of one of Wales’ much loved folk heroes.
ORIG will be performed at Theatr Twm o’r Nant, Denbigh on Saturday, November 23rd at 7:30 pm.
Supporting Gai Toms a’r Banditos will be singer songwriter Elidyr Glyn. Tickets available from Menter Iaith Dinbych – the show will be presented in Welsh. Copies of the script will also be available in large print, braille and digital formats. The tour is funded by the Arts Council Wales.