Darlith gan yr Athro Jerry Hunter

Eleni, fel rhan o arlwy Gŵyl Ganol Haf Dinbych, bydd yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor yn ymuno â ni yng Nghapel Lôn Swan ar Nos Fercher 21 Mehefin am 7yh er mwyn ein cyflwyno i hanes Robert Everett – ‘un o arwyr angof Cymru’ yn ôl un. 

Yr Athro Jerry Hunter

Urddwyd Robert Everett yn weinidog gyda’r Annibynwyr yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, ym 1815. Ar ôl gwasanaethu yn Ninbych am dros saith mlynedd, ymfudodd â’i deulu i dalaith Efrog Newydd er mwyn gwasanaethu Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Coleddai nifer o achosion moesol, ond daeth yn adnabyddus yn anad dim am ei waith fel diddymwr. Gan ddefnyddio’r pulpud, yr ysgrifbin, y wasg argraffu, cymdeithasau lleol a phleidiau gwleidyddol cenedlaethol, aeth ati  i radicaleiddio Cymry America a’u hannog i weithredu er mwyn rhyddhau’r caethweision yn y taleithiau deheuol. Er bod llawer o Americanwyr Cymraeg wedi chwarae rhan yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Parchedig Robert Everett oedd yr enwocaf a’r mwyaf dylanwadol ohonynt.

Gwasanaethodd Robert Everett gymuned Gymraeg gogledd America, yn lais radical dros hawliau merched a heddychiaeth. Yn ei gyfnod roedd ei ddylanwad yn hynod eang, ac mae’n gwbl briodol i ni gofio’r cyfraniad hwnnw yn Ninbych ddwy ganrif union wedi iddo adael pulpud Lôn Swan.

Ein darlithydd yw’r Athro Jerry Hunter, sy’n Americanwr ei hun ac yn arbenigwr ar fywyd y Cymry yn yr Unol Daleithiau. Mae’n ddarlithydd byrlymus a gafaelgar, a dylai fod yn noson cwbl ragorol! Trwy gyfrwng y Gymraeg fydd y ddarlith yn bennaf, ond bydd posib i nifer cyfyngedig dderbyn cyfieithiad ar y pryd hefyd, felly soniwch wrth rai a fyddai’n dymuno clywed yr hanes ond sydd efallai ddim yn hyderus wrth wrando ar ddarlith yn Gymraeg.

Trefnir y noson ar y cyd rhwng Menter Iaith Sir Ddinbych a rhai o gapeli’r dref, fel rhan o raglen Gŵyl Ganol Haf Dinbych. Ceir hefyd gyfle i ymweld â thri o gapeli hanesyddol Dinbych yn ystod y prynhawn, cyn y ddarlith. Bydd drysau Capel Pendref, Capel Mawr a Chapel Lôn Swan i gyd ar agor o 3 – 6pm ar y diwrnod.

Bydd mynediad i’r ddarlith yn rhad ac am ddim ond croesewir cyfraniadau ar y noson tuag at gostau’r Capel. 
 
I gadw sêt ac i gofrestru o flaen llaw ar gyfer cyfieithu ar y pryd, cysylltwch â Llyfrgell Dinbych ar 01745 816313 neu e.bostiwch llyfrgell.dinbych@sirddinbych.gov.uk