Mae cydweithio llwyddiannus Menter Iaith Sir Ddinbych gyda phrosiect amgueddfa gymunedol yn Sir Ddinbych wedi gweld cynnydd o 62% yn nifer y gynulleidfa dros y 12 mis diwethaf, diolch i’r ddarpariaeth Gymraeg.
Bu’n rhaid i Amgueddfa Gwefr heb Wifrau, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Iaith Clwyd yn Ninbych, addasu’n gyflym yn ystod pandemig Covid-19, trwy sicrhau presenoldeb ar-lein i oroesi’r saib cymdeithasol a orfodwyd ar ddigwyddiadau cymunedol.
Yn ffodus, oherwydd llwyddiant cais ariannol trwy Gwynt Brenig Wind Cyf, sicrhawyd bod y grŵp dan law gwirfoddolwyr wedi gallu addasu i’r her yn gyflym a threfnu sgyrsiau newydd ac arloesol ar-lein ar faterion cyfoes, diwylliannol a hanesyddol wedi ei seilio yn ardal Dinbych neu ledled Cymru.
“Roeddem yn ffodus bod Menter Iaith Sir Ddinbych wedi gallu ein cefnogi,” eglura Mike Farnworth, dysgwr Cymraeg a gwirfoddolwr o Lerpwl.
“Cynigiodd Ruth a’r tîm y syniad o gynnig cyfieithu ar y pryd ar-lein i’r rhai di-Gymraeg oedd â diddordeb yn ein sgyrsiau. Cawsom sgyrsiau difyr gan bobl fel D Ben Rees o Lerpwl a roddodd gipolwg i ni ar Dregaron, lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a’r diweddar Carl Clowes a gyflwynodd ni i hanes sefydlu Nant Gwrtheyrn yn Llŷn.”
Ychwanegodd David Crawford, sy’n gweithio gyda Mike fel gwirfoddolwr Amgueddfa Gwefr heb Wifrau: “Yn nes adref, roedd sgwrs Eira Jones am ei magwraeth ym Mhlas Pren ar Fynydd Hiraethog yn gyflwyniad difyr i lawer ohonom.
Cyn y pandemig roedd rhwng 20 a 30 o bobl yn mynychu’r sgyrsiau byw yn yr Amgueddfa yng Nghanolfan Iaith Clwyd ym Mhwll y Grawys, Dinbych. Nawr, mae hyd at 90 o bobl yn mynychu ar-lein gyda’r opsiwn i’r di-Gymraeg glicio ar y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
“Rydym wedi rhyfeddu at lwyddiant y digwyddiadau,” ychwanegodd Mike Farnworth, “ac wrth ein bodd bod mwy a mwy o bobl bellach yn mynychu’r sgyrsiau Cymraeg o gymharu â’r sgyrsiau Saesneg. Fel dysgwr Cymraeg fy hun, rwy’n gwerthfawrogi’n llwyr sut y gall rhwystr iaith effeithio ar fwynhad a dealltwriaeth pobl i fynychu sgyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol yn eu hail iaith.”
Nos Wener yma, 29 Ebrill, am 7pm, bydd y prifardd a’r awdur cenedlaethol, Myrddin ap Dafydd o Lŷn yn trafod Urdd Gobaith Cymru, blwyddyn canmlwyddiant y mudiad. Wedi’ ei sefydlu yn 1922, mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru fwynhau profiadau chwaraeon, diwylliannol, preswyl, dyngarol a gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n sgwrs amserol iawn, wrth gwrs, gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn paratoi at gyrraedd caeaeu fferm Kilford, ger yr Eglwys Wen, yn Ninbych rhwng y 30 Mai a 4ydd Mehefin eleni.
Cofiwch bod rhaid cofrestru o flaen llaw ar gyfer sgwrs Myrddin ap Dafydd ‘Canrif yr Urdd’ ewch i www.cwmulus.org Mae’r digwyddiad yn cychwyn yn brydlon ar-lein am 7pm dydd Gwener 29 Ebrill 2022.