Bu miloedd o blant Cymru’n cystadlu yn Cwis Dim Clem eto eleni. Roedd cannoedd o ysgolion wedi cystadlu yn y cwis llawn hwyl sy’n cael ei threfnu gan y Mentrau Iaith. Pob blwyddyn mae timau brwdfrydig o blant blwyddyn 6 yn cystadlu – ateb cwestiynau mewn sawl rownd leol a rhanbarthol yw’r her. Bu’r 6 tîm buddugol yna’n cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownd rhithiol cyn i’r ysgolion orffen am wyliau’r Pasg.
Meddai Cathryn Griffith, Mentrau Iaith Cymru:
“Mae’r cwis yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd pob blwyddyn. Mae’n cael ei gynnal ym mhob ardal dros Gymru ers 3 mlynedd rŵan, mae miloedd yn cystadlu a’r plant wrth eu bodd cael cymryd rhan – mae’n ffordd wych o ddysgu drwy hwyl.”
Daeth 6 tîm at ei gilydd yn ddigidol a chael rhannu sgrin gydag arweinydd y cwis ac wyneb adnabyddus – Mari Lovgreen. Ymunodd 1 tîm â’r cystadlu’n fyw o Slofenia!
A’r ysgol fuddugol? Wel, daeth TAIR i’r brig sef Ysgol Y Dderi [Ceredigion], Ysgol Eglwyswrw [Sir Benfro] ac Ysgol Bro Cinmeirch [Sir Ddinbych]. Roedden nhw i gyd yn hollol wych a bu’n anodd iawn eu gwahanu ond yn y diwedd cipiwyd y safle 1af gan Ysgol Bro Cinmeirch – Llongyfarchiadau enfawr iddyn nhw!
Dywedodd Olly, Morgan, Efan a Gwen, y tîm buddugol o Ysgol Bro Cinmeirch [Sir Ddinbych]:
“De ni wrth ein boddau o fod wedi ennill Cwis Dim Clem eleni…HWRE!!!! Dyden ni dal methu coelio’r peth, a mor hapus a balch o ni ein hunain yn gwneud mor dda. Dyden ni ddim wedi ennill o’r blaen! Gwnaethom ni fwynhau y profiad yn fawr ac roedd y cwis yn grêt. Roedd y cwestiynau yn hwyl a diddorol, yn enwedig y rownd siocled! Roedd hi’n braf cael gweithio mewn tîm gyda’n gilydd i ateb y cwestiynau, a chyfarfod plant o ysgolion eraill dros y sgrin. Yn olaf, diolch yn fawr iawn am yr holl drefnu ar gyfer y cwis, ac ryden ni yn edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!”
Yr ysgolion yn y rownd derfynol oedd:
- Ysgol Gilfach Fargoed, Caerffili
- Ysgol Evan James, Rhondda Cynon Taf
- Ysgol Y Dderi, Ceredigion
- Ysgol Eglwyswrw, Sir Benfro
- Ysgol Bro Cinmeirch, Sir Ddinbych
- Ysgol Pentruchaf, Gwynedd
DIWEDD